Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

19.10.09

Merched y Wawr Cangen GwaunGors

Ar Orffennaf 4ydd aeth aelodau o’r gangen ar wibdaith yn ôl ein harfer ar ddiwedd blwyddyn y Mudiad. Eleni aethom i ymweld ag Amgueddfa ac Oriel Gelfyddyd Castell Cyfa r t h fa ym Merthyr Tudful. Yno ceir hanes Merthyr a theulu cefnog Crawshay a’r gweithfeydd haearn, ynghyd â chasgliad o gelfyddyd yr ugeinfed ganrif. Yna aethom i fwthyn yr enwog Joseph Parry, gwrthgyferbyniad llwyr i’r plasdy. Mae’n esiampl o fwthyn gweithwyr medrus gwaith haearn. Mae’r ddwy ystafell ar y llawr wedi eu hadnewyddu a’u dodrefnu â chelfi ac offer o
fywyd yn amser Joseph Parry (g.1841), ar y llofft mae arddangosfa fechan o’i fywyd a chymdeithasau cerddorol yr ardal. Cawsom ddiwrnod hamddennol, diddorol a phleserus.

No comments:

Help / Cymorth