Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

22.11.09

Côr Merched Lleisiau’r Cwm

Cafwyd cyfarfod blynyddol y Côr ganol mis Hydref ac y mae’r canlynol wedi cael eu dewis fel Swyddogion y Côr am y flwyddyn 2009-2010. Cadeirydd: Catrin Thomas, Is-Gadeirydd: Cheryl Thomas, Ysgrifenyddes: Mair Wyn, Is-Ysgrifenyddes: Elin Rees, Trysorydd: Ann Jones, Is-Drysorydd: Marlene Mathias, Swyddog Trafnidiaeth: Sarah Davies, Cofrestrydd: Ann Williams. Ein Harweinyddes a’n Cyfeilydd yw Catrin Hughes gyda Mared Owen yn Is-Arweinyddes. Ein Llywydd Anrhydeddus yw Heddyr Gregory.
Mae’r Côr yn brysur iawn ar hyn o bryd yn paratoi Cyngerdd a gynhelir yn yr Hydd Gwyn, Llandeilo ar y 3ydd o Rhagfyr, pan fyddant yn diddanu Cylch Cinio Cymraeg Rhydaman Hefyd bydd eu Cyngerdd Blynyddol ar y cŷd gyda Chôr Cantata a Chôr y Sgarlets yn cael ei gynnal yn Llanelli ym mis Rhagfyr.
Os oes rhywun â diddordeb mewn ymuno â’r Côr, cynhelir yr ymarferion yn Festri Bethesda, Glanaman bob nôs Fercher am 7 o’r gloch a byddwn yn falch o’ch gweld yno. Neu os oes angen cyngerdd arnoch, cysylltwch â’n Cyfarwyddwraig Gerdd, Catrin Hughes ar 01554 745100 (Ysgol y Strade) neu 07815600972 (Ffôn Symudol). Cyfeiriad Catrin yw: 38 Heol Newydd, Llanelli, SA15 3DR. Bydd croeso twym-galon yn eich haros.

No comments:

Help / Cymorth