Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

22.11.09

Plygain Hel Fethel

Cynhelir y blygain ar fore’r Nadolig, y 25ain o Ragfyr eleni i gychwyn am 6.30 o’r gloch yng Nghapel Hen Fethel. Os oes unrhyw un ohonoch â diddordeb mewn cymryd rhan yn y gwasanaeth a wnewch, os gwelwch fod yn dda, gysylltu â Linden Evans, 84 Heol Tirycoed, Glanaman neu yn well fyth, ffoniwch ef ar 01269 826021. Bydd Linden yn falch iawn i glywed wrthych. Mae’n hyfryd bod y gwasanaeth yn cael ei gynnal unwaith yn rhagor ac yn bwysig iawn bod y traddodiad yn cael ei ddathlu fel cynt. Dyma’r ffordd orau i gychwyn yr Wyl yng ngwir ysbryd y Nadolig ac mae yno groeso cynnes i bawb.

No comments:

Help / Cymorth