Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

26.11.09

GOSEN, LLANDYBIE

llun - Arwel Davies, Caerfyrddin
Braf oedd gweld drysau Gosen yn agored eto ar y Sul cyntaf o Hydref. Mae'r capel wedi bod ynghau,ers bron i ddwy flynedd bellach tra bod gwaith atgyweirio yn mynd yn ei flaen ochr yn ochr ag adeiladu stad o dai ar y tir o'i gwmpas. Er mai "hir yw pob aros," mae'r oedi wedi talu ar ei ganfed gan fod gan yr aelodau bellach addoldy moethus sy'n cynnwys cegin a chyfleusterau modern o dan yr un to, yn ogystal a maes parcio eang yn y cefn.
Dathlwyd yr achlysur trwy gynnal Cwrdd Diolchgarwch Blynyddol Gosen a Sion o dan arweiniad Y Parchedig Tom Dafis, Caerfyrddin. Cyflwynodd neges amserol trwy son am ein bendithion ni mewn cymhariaeth ag anghenion byd-eang. Gwnaed casgliad tuag at Cymorth Cristriogol yn ystod yr oedfa. Yna, wedi'r gwasanaeth gwahoddwyd pawb i'r festri am gwpanaid o de a chyfeillach.
Da oedd gweld cymaint yn bresennol a does and gobeithio nawr bod hyn yn mynd i barhau er Iles -Gosen a Sion yn y dyfodol. Bydd yr arferiad o addoli ar y cyd yn parhau gyda’r oedfaon yn y naill gapel a'r llall am yn ail Sul.

No comments:

Help / Cymorth