16.11.09

Menter Bro Dinefwr

Cynhaliwyd dau Jambori yng nghwmni Martyn Geraint yn ardal Menter Bro Dinefwr ar y 29ain a 30ain o Fedi. Ar y diwrnod cyntaf dechreuodd Martyn Geraint ei daith yn y Tywi, yn y bore roedd e’n diddanu’r plant yn Neuadd Ddinesig Llandeilo ac yn y prynhawn aeth i Neuadd Llangadog. Cafwyd diwrnod llawn hwyl a sbri ac roedd yn braf gweld y ddau leoliad yn llawn, daeth dros 350 o blant i weld y diddanwr enwog. Ar yr ail ddiwrnod daeth dros 600 o blant i weld Martyn ar daith yn yr Aman, yn Ysgol y Bedol yn y bore ac yn Ganolfan yr Aman yn y prynhawn. Cafwyd dau ddiwrnod ardderchog ac roedd ymateb hwylus y plant tuag at Martyn Geraint yn profi pa mor lwyddiannus oedd y daith. Hoffem ddiolch i holl ysgolion yr ardal am eu cefnogaeth ar y daith yma a hoffwn hefyd ddiolch i Martyn Geraint am ei sioe ffantastig eleni eto. Edrychwn ymlaen at sioe 2010 nawr

0 comments:

Help / Cymorth