Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

18.11.09

Gŵyl Ddiolchgarwch

Cynhaliodd Eglwys Sant Edmwnd ŵyl arbennig ar Sadwrn, Hydref 17eg hyd at Fawrth yr 20fed i ddathlu tymor y diolchgarwch. Addurnwyd yr Eglwys â blodau a roedd yr eglwys ar agor i’r cyhoedd o’r Sadwrn tan y Mawrth canlynol gan rhoi cyfle i’r ymwelwyr wethfawrogi’r harddwch ynghyd ag oedi ennyd am fyfyrdod personol a chael paned o de.
Y pregethwr gwadd ar y nos Sul – Dydd Sant Luc – oedd y Parch. Hugh M. Thomas, Cwmgors gyda’i briod, Mrs. Mary Thomas, yn cynorthwyo wrth yr organ. Cafwyd oedfa arbennig gyda chynulliad luosog.

No comments:

Help / Cymorth