Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

18.11.09

Swper Cynhaeaf


‘Diolch, diolch Iesu yw fy nghân’. Gellid dweud hynny yn hawdd wedi treulio noson mewn Swper Diolchgarwch a gynhaliwyd yn festri Moreia, Tycroes ganol Hydref.
Mi roedd chwiorydd y capel wedi paratoi gwledd o fwyd ar ein cyfer. Yna cafwyd anerchiad hwyliog a safonol gan Mrs. Hazel Charles-Evans, Llandybïe. Pwysleisiodd ar y modd y dylem ddiolch yn amlach ac fe gysylltodd hynny ar y defnydd a wneir o’r gair yn y Beibl – yn yr Hen Destament, yn arbennig felly yn y Salmau ac hefyd yn y Testament Newydd. Gellir dweud yn rhwydd mae da oedd bod yno.
Llywyddwyd y noson gan y gweinidog, y Parch. Dyfrig Rees.

No comments:

Help / Cymorth