Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

19.11.09

Cylch Cinio Cymraeg Rhydaman

Cynhaliwyd cinio Hydref Cylch Cinio Cymraeg Rhydaman yn y Ganolfan Aman, Rhydaman, Nos Iau, Hydref 1af o dan lywyddiaeth Edwyn Williams, Capel Hendre. Y prif westai am y noson oedd y Gwir Anrhydeddus Denzil Davies, Cyn-aelod Seneddol Llanelli. Yn wythdegau’r ganrif olaf ef oedd llefarydd fainc blaen yr wrth-blaid ar faterion yn delio ag amddiffyn ac arfogi. Yn ystod y cyfnod hwn bu ar ddirprwyiaeth i’r Undeb Sofietaidd ar dri achlysur ac yn ei farn ef roedd yna ddau ddigwyddiad y pryd hynny a fu yn allweddol i gwymp Comiwnyddiaeth yn Rwsia ac Ewrop gan gynnwys y mur rhwng Dwyrain a Gorllewin yr Almaen. Un ohonynt oedd ofn bygythiad yr Arlywydd Reagan i sefydlu y ‘Star War Technolgy’ a allai saethu i lawr holl daflegrau yr Undeb Sofietaidd ymhell cyn iddynt gyrraedd eu targedau, ac yn ail cri mamau Rwsia yn erbyn y bagiau cyrff (‘body bags’) a ddychwelai yn gyson o Afghanistan pan roedd Rwsia yn ymladd yno. Gwers efallai i ni ym Mhrydain heddiw. Diolchodd Trefor Evans, Llandybïe i’r prif westai am araith a agorodd ein llygaid i lawer o bethau nad oeddem wedi meddwl amdanynt.

Mae rhaglen gyffrous wedi ei pharatoi ar gyfer 2010. Fe ddechreuir ym mis Ionawr, yn ôl yr arfer ers dros degawd bellach, gyda’r cwis poblogaidd a diddorol dros ben o dan ofal Edwyn Williams, ein llywydd. Fe ddaw’r flwyddyn i ben gyda’r Ginio Nadolig pryd y byddwn yn 2010 yn dathlu deugain mlynedd sefydlu’r Cylch Cinio gan y Parch. Ronald Walters ar ôl ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol â Rhydaman yn 1970. Ar y noson arbennig hon fe fydd Ysgol Berfformio Dyffryn Tywi o dan arweiniad Miss Delyth Mai Nicholas yn bresennol i’n diddanu. Am weddill y flwyddyn fe gawn gwmni Aled Huw, y Prifardd Tudur Dylan, Alun Wyn Bevan, Felix Aubel, Eric Jones, Mrs. Heddyr Gregory, Miss Elizabeth Thomas a John Williams o’r ‘St. Helen’s Balconiers’ ynghyd ag Andrew Hignell, Archifydd Clwb Criced Morgannwg.

Felly os carai unrhyw un ymuno â ni ar yr amser cyffrous hwn yn ein hanes cysylltwch â’r ysgrifennydd Elfryn Thomas, ffôn (01269) 593679 am ragor o fanylion.

No comments:

Help / Cymorth