Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

19.11.09

Gŵyl Gaws Prydain

Daeth llwyddiant eto i Sian Elin a Steve Peace yn Ŵyl Gaws Prydain a gynhaliwyd yng Nghastell Caerdydd ar ddiwedd mis Awst.
Sian Elin a Steve yw perchnogion Cwmni Caws Caerfyrddin sy â ffatri gaws yn Horeb, ger Llandysul. Y maent yn cynyrchu rhyw hanner dwsin o wahanol fathau o faws o dan yr enw PONT GÂR, LLANGLOFFAN a BOXBURG BLUE. Y mae ganddynt hefy dfusnes yn Leicester yn cynhyrchu QUEMBY HALL STILTON.
Enillodd y Stilton y wonr am y caws glas gorau yn yr wŷl; ond hefyd cawson nhw’r brif wobr o holl gategoriau yr wŷl gyda’r Quemby Hall Stilton h.y. y supreme Champion Award.
Y mae Sian Elin yn ferch o’r Betws – merch Enid a Hywel Davies o heol Pentwyn. Am gyfnod bu’r teulu yn byw yn y Betws ac roedd Mia a Joseph y plant yn aelodau ffyddlon o’r ysgol Sul yng Nghapel Newydd. Mae’r teulu wedi symud i fyw yn Llanllwch, ger Caerfyrddin a’r plant erbyn hyn yn mynychu Ysgol Bro myrddin. Un o Swydd Efrog ydy Steve ac y mae’n hynod o gefnogol i’r iaith Gymraeg. Y mae’r hysbyseb ar ei gaws yn ddwyieithog ac y mae’r cwmni bob amser yn hybu cynnyrch bwydydd Cymreig.
Pob llwyddiant iddynt yn eu menter.

No comments:

Help / Cymorth