Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.
Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32 edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk
Capel Newydd
Cynhaliwyd gwasanaeth diolchgarwch bendithiol ar fore Sul, Hydref 4edd. Cymerwyd y brif ran gan Dafydd Llŷr a Cellan Wyn gyda Elin, Georgina, Haydn, Sara, Tomos, Joshua, Helena a Hannah y nein cynorthwyo. Yna cafwyd stori difyr gan y Parchg Leslie Jones a fu hefyd yn offrymu’r Cymun. Casglwys reis a pasta i’w trosglwyddo i anffodusion Romania trwy law Mrs Val Newton ynhŷd â’r casgliad rhydd.
Mae Dafydd Llŷr newydd ddechrau cwrs yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin a dymunwn pob bendith iddo yn y dyfodol.
No comments:
Post a Comment