Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

20.11.09

Ffion yn Lesotho

Yn ddiweddar aeth Ffion Lewis o Frynaman i Lesotho fel aelod o griw o Coleg Y Drindod. Dyma ychydig o'i hanes. gyda disbylion ysgol Thabatseka
gyda disgyblion ysgol Maseru
Mae Ann Loughran, un o ddarlithwyr Coleg y Drindod wedi creu cyswllt rhwng y coleg a'r wlad ers 2005 and dyma'r tro cyntaf i rai o'r myfyrwyr gael cyfle i ymweld a Lesotho. Roedd yn rhaid hedfan o Fryste i Baris, yna ymlaen i Johannesburg cyn teithio ymhellach i brifddinas Lesotho, sef Maseru. Treuliodd y criw wythnos yma, gan aros yn y coleg lleol. Yn ystod yr wythnos roedden nhw'n arsylwi i ddechrau yna'n dysgu yn Ysgol Breifat Iketsetseng.
Roedd Ffion yn dysgu plant o 9 - 11 oed ac roedd ganddi 108 o ddisgyblion yn ei dosbarth — na, — nid gwall printio — 108 mewn un dosbarth! Yn ol Ffion, roedd y plant i gyd mor hapus ac yn awyddus iawn i ddysgu. Roedd gwisg ysgol ganddynt yma, ac roeddent yn ddigon ffodus i gael ystafell yn llawn cyfrifiaduron yn yr ysgol, ac roedd ymdrech fawr yn cael ei gwneud i sicrhau fod y plant i gyd yn cael cyfle i'w defnyddio.
Ffion a'i chydfyfyrwyr ag un athrawes o ysgol Maseru
l
Roedd rhaid gwneud taith o 6 awr i fyny i'r mynyddoedd mewn bws mini er mwyn cyrraedd lleoliad yr ail ysgol, — Ysgol Gynradd Loti yn Thabatseka. Yma roedd y sefyllfa yn dra wahanol gyda diffyg adnoddau a hyd yn oed yr athrawon heb eu hyfforddi. Serch hynny, roedd y plant i gyd yn hapus ac yn barod i ddysgu.
Cafodd y criw rywfaint bach o amser i deithio a gweld rhai o bentrefi tlawd y wlad a ffordd o fyw y brodorion. Er mai gaeaf oedd hi yno, teimlai'r Cymry y tywydd yn boeth and giwsgai'r brodorion flancedi traddodiadol i'w cadw'n gynnes.
un o'r brodorion ifanc

No comments:

Help / Cymorth