27.11.09

Ysgol Feithrin Rhydaman

Enid Davies yn derbyn siec gan Megan Thomas ac Emrys Davies-Caraddock.

Cynhaliwyd Gwasanaeth Diolchgarwch Ysgol Feithrin Rhydaman bore Gwener yr ail o Hydref, o dan ofal y Pastor Jonathan. Y mae gan Jonathan ddawn arbennig i hudo’r plant wrth iddo ddweud stori iddynt. Y maent yn gwrando ar bob gair sydd ganddo i ddweud.
Bu’r plant bach yn ddyfal yn casglu arian tuag at yr elusen Macluar Disease Society eleni. Gwahoddwyd Mrs Enid Davies o’r Betws i derbyn y siec o £100 ar ran y gymdeithas. Y mae’r clefyd hyn yn golygu bod llawer o bobl yn diodde o golli golwg ac yr oedd Enid Davies yn falch iawn o dderbyn yr arian bydd yn hybu’r gwaith ymchwil sydd yn mynd ymlaen i geisio gwella golwg pobl sydd yn diodde o Macular Degeneration.
Diolch i blant yr ysgol a’u hathrawon am eu caredigrwydd a’u haelioni.

0 comments:

Help / Cymorth