Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

27.11.09

Gellimanwydd

Nos Fercher 30 Medi cynhaliwyd Swper Diolchgarwch y Gymdeithas. Y gwesteion oedd Y Canon a Mrs John Gravell. Llywydd y noson oedd Miss Rowena Fowler.
Braf oedd gweld cymaint wedi dod i fwynhau’r wledd. Roedd y byrddau wedi eu addurno gyda blodau hyfryd a cawsom fwyd heb ei ail wedi ei baratoi gan chwiorydd y Gymdeithas. Wedi’r prif gwrs o ham, tatws a salad cawsom darten afal a hufen ac yna chwpanaid o de.
Roedd pawb wrth eu bodd yn mwynhau’r bwyd a’r gymdeithas felus.
Cawsom araith hynod bleserus a phwrpasol gan y Canon John Gravell am y cynaeafau a fu a’i atgofion fel plentyn adeg y cynhaeaf. Yn wir roedd yn dod ag atgofion melus i bob un ohonom oedd yn bresennol.
Diolchwyd iddo gan Mrs Margaret Reagan


Yna cynhaliwyd cyrddau Diolchgarwch Gellimanwydd ar ddydd Sul Hydref 11.
Eleni roedd dwy o ffenestri’r capel wedi eu haddurno gan y plant er mwyn dangos beth hoffent ddiolch i Dduw amdano. A hithau yn ddiwrnod cenedlaethol i ddathlu bywyd T.Llew Jones ar 9 Hydref addas iawn oedd addurno un o’r ffenestri gyda ei waith. Hefyd mae dau o wyrion T. Llew Jones yn aelodau o ysgol Sul y Neuadd, sef Dafydd a Mari Llywelyn.
Roedd yr ail ffenest yn cynnwys eitemau megis bat criced, pel rygbi, Nintendo Wii, llun o cwningen a nifer o bethau eraill.
Cawsom wasanaeth hyfryd yn y bore dan arweiniad plant yr Ysgol Sul. Wedi’r oedfa aethom i gyd i’r neuadd i rannu cwpanaid o de a bisgedi.
Yn y nos cawsom Oedfa Ddiolgarwch yr oedolion. Unwaith eto hyfrydwch oedd gweld cymaint yn y gynulleidfa. Cawsom eitemau gan y côr merched, côr dynion a’r côr cymysg, a diolch i Mrs Gloria Lloyd am ei holl waith yn hyfforddi’r partion a Mr Cyril Wilkins yn ei chynorthwyo. Yn ogystal cawsom ddarllenaidau, adroddiadau ac anerchiad pwrpasol gan ein Gweinidog y Parchg Dyfrig Rees.

No comments:

Help / Cymorth