Ar yr ail o Ragfyr croesawodd y Llywydd Mr Morlais Pugh Fand Ieuenctid Cwmtawe i ddiddannu’r aelodau. Mae’n arferiad bellach i’r band chwarau cerddoriaeth Nadoligaidd, a’r gynulleidfa yn canu carolau i gyfeiliant y band, siom oedd cael geiriau yn Saesneg yn unig y tro hwn. Arweinydd y rhan gyntaf oedd Mr Hywel Jones a Mr Rhodri Morris yr ail hanner. Diolchwyd ir band am noson hwylus gan y Llywydd.
Yna ar yr ail ar bymtheg o Ragfyr aeth aelodau o’r Gymdeithas i Ganolfan y Mynydd Du i gael cinio Nadolig. Croesawodd Mr Morlais Pugh y gŵr gwadd, sef Mr Glynog Davies atom achawsom noson hwylus iawn yn ei gwmni, ac yntau yn adnabod y mwyafrif o’r aelodau. Soniodd am ai gysylltiadau agos ậ’r Waun ac am ei yrfa yn y cyfryngau gyda sawl stori ddoniol. Cawsom noson bleserus iawn yn ei gwmni, bwyd blasus a sawl un wedi ennill gwobrwyon yn y raffl. Diolchwyd yn gynnes i Glynog gan y Llywydd. Diolch i aelodau’r pwyllgor am eu gwaith yn ystod y flwyddyn.

No comments:
Post a Comment