Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

25.2.10

Hamlet a Llandybie

Beth dywedwch ydyw’r cysylltiad rhwng Hamlet a Llandybie? “Hamlet” yw un o ddramau enwocaf Shakespeare. Hamlet oedd Tywysog Denmarc a roedd yn byw yng nghastell Helsnigor. Mae un o dimau gorau rygbi Denmarc yn Helsnigor ac mae un o hoelion with y tim a’i wreiddiau yn gryf yn Llandybie. Soniais am Andrew Jones yn y rhifyn diwethaf. Andrew yw cadeirydd y clwb ac mae’n dal i chwarae ambell i gem. Yr oedd tadcu Andrew, y diweddar Alcwyn Griffiths, yn chwarae ar yr asgell i bentre Llandybie a fuodd yn drysorydd y clwb am flynyddoedd lawer ac fel roedd Andrew yn dweud yr oedd yn gwybod popeth am rygbi.
Cefais llawer o wybodaeth diddorol gan Andrew am hanes y clwb a sut mae proffil rygbi fel gem yn Denmarc. Sefydlwyd y tim yn 1981 a dros y blynyddoedd mae’r tim wedi ennill y gynghrair uchaf a’r gystadleuaeth gwpan. Dim ond rhyw bedwar tim ar hugain sydd yn y wlad ac mae tair cynghrair. Ond wyth gem cynghrair sydd ond mae’r tim yn chwarae sawl gem gyfeillgar. Mae gan Denmarc dim cenedlaethol sy’n chwarae yn erbyn timau Norwy a Hwngari. Mae tim cenedlaethol o dan 17 ac o dan 20 ac mae tim i’r merched.
Yn anffodus dywed Andrew mae American Football yn cael llawer mwy o sylw ac mae llawer o bobl yn cymysgu lan rhwng y ddwy gêm ac yn synnu fod dim dillad/kit mwy diogel i rygbi i arbed anafiadau. Anodd yw cymharu safon rhwng y ddwy wlad ond nid yw’r gêm yn Denmarc mor gorfforol o’i chymharu a’r gêm yng Nghymru. Nid yw tymor rygbi Denmarc yn cyd-redeg a’r tymor yng Nghymru. Ym mis Mawrth mae’n dechrau gan barhau tan diwedd Mai gan wedyn ail ddechrau ym mis Awst tan ganol Tachwedd – mae’n llawer rhy oer yn y gaeaf yn Denmarc!
Er bod Andrew yn edmygu ac yn hoff iawn o arddull chwarae y Scarlets ei hoff dîm yw “Dewiniaid” Aberafan oherwydd ger Port Talbot cafodd ei fagu. Oherwydd bod bocs digidol ganddo mae’n medru cael gemau Cymru ar S4C a pan fydd e’n gwylio gêm rygbi gydai gyd-chwaraewyr rhaid iddo gyfieithu o’r Gymraeg i iaith Denmarc!
Trefnodd Andrew daith i’r tîm i weld Cwpan y Byd 1999 ac fe gawsant gyfle i weld Samoa yn chwarae Ariannin ar hen Barc y Strade. Mae Andrew wedi dysgu rhai caneuon rygbi iddynt ond er bod iaith Denmarc ddim yn iaith dda i’w chanu ar ôl sawl peint yr oeddent yn canu cystal a chôr meibion Llandybie. Gan obeithio eich bod wedi synhwyro beth yw’r cysylltiad rhwng Shakespeare a Llandybie . Diolch i Andrew!

No comments:

Help / Cymorth