Fe glywsom sôn yn ddiweddar bod yr Eisteddfod Genedlaethol yn dod i Ddyffryn Aman yn 2014 a bod yna bosibilrwydd y byddai yn cael ei lleoli yn y Coopers uwchben Tycroes. Mae y newyddion hyn yn dwyn fy meddwl yn ôl at Eisteddfod Genedlaethol Rhydaman a’r Cylch yn 1970 ac yn arbennig i Pwyllgor Apêl Tycroes a sefydlwyd yn 1969 gyda Gwyn Howells yn gadeirydd, Griff Jones yn is-gadeirydd, Miss Nancy Thomas yn drysorydd a minnau yn ysgrifennydd. Yn ddiamau dyma’r pwyllgor gorau fu’m yn aelod ohono. Roedd gan Gwyn Howells y ddawn o dynnu’r gorau allan o’r aelodau ac er bod yn bwyllgor mawr o dros 30 o aelodau cafwyd cydweithio arbennig ac o ganlyniad cyrhaeddwyd y targed o £1,000 yn go rhwydd. Ymhlith y gweithgareddau cynhaliwyd dwy ffair fawr ar campws Ysgol Tycroes, tair helfa drysor a chyngerdd fawreddog a drefnwyd gan Madam Lynne Richards yng Nghapel Moreia gyda Nancy Richards a Washington James yn unawdwyr, Madam Holloway oedd y cyfeilydd a John Davies, Pontarddulais, yn llywyddu. Noson i’w chofio gyda capel Moreia yn orlawn a dros 300 yn bresennol. Cynhyrchwyd hefyd galendr Cymraeg ac fe werthwyd mil o gopïau yn y pentref.
Uwchben fe welwch lun o aelodau’r pwyllgor ond erbyn hyn dim ond wyth ohonom sydd ar ôl ar dir y byw – Mrs. Lilian Finch, Miss Olive Bennett, Madam Lynne Richards, Mrs. Nellie Higgs, Mrs. Emily Rowlands, Elfryn Thomas, Ryal Rees a Heddwyn Davies.
Mae un peth yn go sicr, os cynhelir yr Eisteddfod ar y tir yn y Coopers a chyda’r biben nwy enfawr sydd yn rhedeg o dan y ddaear fan hynny fe ddylai’r cyfan fynd gyda tipyn o ‘fang’!!
No comments:
Post a Comment