Un arall a fu ar ymweliad â Chymru ac a gafodd groeso yn ‘Llais-yr-Andes’ oedd merch ifanc yn ei thri degau cynnar, o’r enw Soraya Williams. Treuliodd hithau chwe mis yng Nghaerdydd yn dilyn cyrsiau i loywi ei Chymraeg a chael profiad yr un pryd o weithio yn ‘Nos Da’. Yr oedd Soraya yn gwbl ddi-Gymraeg tan iddi fynychu dosbarthiadau Hazel pan oedd hithau’n athrawes yn
Esquel, yn yr Andes, rhwng 1997 a 1999. Yn rhugl yn yr iaith erbyn hyn, Soraya sy’n gyfrifol am addysgu plant yn y Ganolfan Gymraeg yn Esquel. Yn ystod ei hymweliad diweddar â Chymru, fe’i gwelwyd ar raglen ‘Wedi 3’ yn arsylwi yn un o ysgolion Cymraeg Caerdydd - yn amlwg wrth ei bodd gyda’r plant. Oherwydd cefnogaeth brwd Glynog Davies a Randal Isaac, bu cwmni Tinopolis ynghyd â Chlwb Cinio Llandybie mor garedig â chyflwyno copi o ‘Fflic a Fflac’, sef cyfres i ddatblygu iaith plant rhwng tair a saith oed, i Soraya er mwyn ei chynorthwyo hithau ac eraill yn y Ganolfan gyda’u gwaith o addysgu.
No comments:
Post a Comment