Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

15.8.10

CYNGERDD COR RHYDAMAN A'R CYLCH

Ar ol tymor o baratoi oedd yn pawn trafferthion, yn cynnwys tostrwydd ymysg yr aelodau a'u teuluoedd, a gaeaf caled a oedd yn golygu colli ymarferion, fe lwyddodd y cor i roi cyngerdd a brofodd yn un dderbyniol iawn i'r gvnulleidfa. Trwy rhyw gyd-ddigwyddiad , roedd ffrindiau o Breuillet, gefeilldref Rhydaman yn Ffrainc, wedi dod i'r gyngerdd gan chwyddo'r nifer o wrandawyr, a bu eu derbyniad gwresog a diffuant yn hwb i ymdrechion y cor.

Roedd y rhaglen yn eang yn ei apel, llawer o ffefrynnau o'r sioeau hen a newydd, o Ifor Novello i Robat Arwyn, o lwyfannau a ffilmiau Americanaidd i theatrau Llundain, ac yn y blynyddoedd diweddar cynyrch y sioeau Cymreig - rhywbeth i blesio pawb.
Dau o Dde Cymru oedd yr artistiaid, Rhian Mair Lewis o bentre Idole, a Robin Lyn Evans o Geredigion. Fe wnaeth y ddau gyrraedd ymhell yn y maes eisteddfodol, gan ennill anrhydeddau cenedlaethol yn gyson, ac ar ol astudio ymhellach yn Llundain, maent yn westeion gyda chwmniau opera dros Brydain, ac yn canu mewn gwledydd tramor. Cawsom ein tywys ganddynt i fyd yr operau clasurol fel Faust, Carmen a La. Traviata, heb anghofio Elen Fwyn, Cymru Fach a LIanrwst. Ond heblaw'r canu roedd eu cysylltiad a'r dorf yn agos a chynnes.
Felly hefyd y gadwyn rhwng y cyflwynydd, y Parchedig E. Lyn Rees a'i wrandawyr. Braf yw cael talent lleol o'r fath, fel sy'n wir am y dair wrth y llyw. Mae cyfraniad yr arweinyddes, Indeg Thomas, yn amhrisiadwy, yn dewis a threfnu'r miwsig a'i ddysgu'n amyneddgar to hwnt a pharatoi'r cor yn Ilwyr i'r perfformiadau. Mae'r ddwy gyfeilyddes, Olwen Richards a Sally Arthur yn gefnogol iawn iddi hi ac i'r cor. Mae swyddogion y cor yn drylwyr wrth ei gwaith, ac aelodau'r cor yn brysur yn paratoi'r neuadd cyn y gyngerdd a'i chlirio wedi gorffen. Dim and wrth gyd-dynnu fel hyn, a chyd-weithio gydag awdurdodau'r ysgol mae noson fel hyn yn bosib. Diolch i bawb.

No comments:

Help / Cymorth