Llongyfarchiadau i Mel Morgans, Cadeirydd Glo Man ar ei urddo i Orsedd y Beirdd yn Eisteddfod Genedlaethol eleni. Disgrifir Mel Morgans, fel “dyn prysur - a Chymro i’r carn” a hawdd gweld pam wrth ystyried ei gyfraniad i ddiwylliant ei fro. Bu’n ymwneud ag Aelwyd Aman am flynyddoedd fel Arweinydd ac yna fel ymddiriedolwr, yn aelod o Fenter Iaith Sir Gaerfyrddin ac yn hynod o weithgar fel actor a chyfarwyddwr Cwmni Drama’r Gwter Fawr. Yn ogystal â hyn i gyd, mae’n aelod o Gorff Llywodraethol Ysgol Gynradd Brynaman ac yn Gadeirydd Glo Mân.
No comments:
Post a Comment