Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

31.5.11

Wili Aman yn 80 oed - Brynaman

Ar ddydd Iau, 28 Ebrill, fe ddathlodd un o gymeriadau mwyaf hoffus Brynaman ei benblwydd yn 80 sef Wili Aman Jones o Heol y Glyn ers blynyddoedd bellach ond gynt o Heol Newydd. Mae Wili wedi bod yn ffyddlon iawn i’w bentref drwy ei oes, yn aelod ffyddlon ac yn ddiacon yng nghapel Moriah a chysylltiad agos a hir ag Aelwyd Amanw a hefyd cangen leol o Blaid Cymru.

Cafodd barti i’w gofio yng Nghanolfan y Mynydd Du ar y nos Iau lle death nifer fawr o’i ffrindiau, ynghyd â’i nai Huw a’i deulu i uno yn y dathlu.
Collodd Wili ei fraich dde mewn damwain yn y gwaith glo pan yn grwtyn ifanc ond ni adawodd hyn i’w rhwystro rhag byw bywyd llawn a diddorol.

Yn ystod y parti darllenwyd cyfarchion barddonol iddo o waith Tegwyn Jones o Aberystwyth ar ran Tegwyn , ei wraig Beti (Morgan gynt) a’u mab Rhys.

I Wili Aman
I’r Brenin o Frynaman
Anfonwn ambell Driban;
‘D oes neb a haedda hynny’n fwy
Drwy’r plwy’ na Wili Aman.

Yn ddiwyd, haf a gaea’
Ymdrechodd hyd yr eitha’
I warchod wastad rhag bob cam
Y fflam sydd ym Moreia.

Ei fywyd roes yn gyfan
Er lles ei hoff Frynaman;
Ni fu undyn i’w ardal wiw
Mor driw â Wili Aman.

I Wili, wr bonheddig
Anfonwn yn garedig
Ein dymuniadau gorau’n rhwydd
Ar ei benblwydd arbennig.

Unwaith eto, ar ran ei holl gyfeillion ym Mrynaman a thuhwnt, llongyfarchion i ti Wili a phob bendith i’r dyfodol.

No comments:

Help / Cymorth