Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

30.9.11

Meistres y Gwisgoedd - Gorsedd Y Beirdd

"Mae cyfraniad Sian Aman i Orsedd y Beirdd fel Meistres y Gwisgoedd yn gwbl unigryw. Bu yn y swydd ers saith mlynedd ar hugain ac yn ystod y cyfnod hwn, gwnaeth gyfraniad arbennig iawn. Bu'n gyfrifol am ofalu am holl wisgoedd Yr Orsedd, gan sicrhau fod gwisg ar gyfer pob aelod o'r Orsedd yn y gwahanol seremoniau. Yn wir, iddi hi a'i gwr Huw y mae'r diolch am eu rhodd hael wrth gyflwyno gwisg newydd i'r Archdderwydd yn ystod y blynyddoedd diweddaraf. Mae Jean yn meddu ar rinweddau hollol arbennig - mae'n hi'n drefnus o ran natur, yn bwyllog ac amyneddgar o ran personoliaeth, yn llawn cariad at yr iaith Gymraeg a'r diwylliant Cymreig ac yn urddasol ei chymeriad. Bu'r rhinweddau hyn yn amlwg a chyson yn ei gwaith ers dros chwarter canrif, a mawr ein diolch iddi, wrth iddi ymddeol o'r swydd. Yn fwy na dim, fel y gwelsom yn ystod yr Eisteddfod eleni yn Wrecsam, mae aelodau'r Orsedd yn meddwl y byd ohonni ac yn gwerthfawr ei chymwynasau di-ri dros gyfnod maith.
Yn ystod y Cyfarfod Blynyddol, cyflwynwyd anrheg arbennig i Jean, sef darn o wydr cain sy'n cynnwys marc cyfrin Yr Orsedd ynghyd ag englyn gan y Prifardd John Gwilym Jones. Cyflwynwyd hefyd iddi, rodd ariannol teilwng a llun ohonni gyda'r Archdderwydd, y Cyn-Archdderwyddon, Swyddogion Yr Orsedd a phrif swyddogion yr Eisteddfod Genedlaethol. Bydd ganddi hi a'i gwr Huw, lu o atgofion melys am wahanol Eisteddfodau - ac fe fydd ganddon ni, aelodau'r Orsedd lu o atgofion melys amdani hi. Does ond rhaid i rywun fod yn ei chwmni am gyfnod byr iawn, i werthfawrogi ei phersonoliaeth hyfryd ac i ddod o dan ei swyn cyfareddol! Diolch i Jean am ei gwaith anhygoel ac i Huw am fod yn gymaint i gefn iddi gydol y blynyddoedd."Penri Tanad
Cofiadur Yr Orsedd

No comments:

Help / Cymorth