Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

18.1.12

Côr Merched Lleisiau’r Cwm

Yr oedd nos Sadwrn, Rhagfyr 17eg, 2011, yn noson i’w chofio yn y Cwm am fod y Côr yn dathlu eu Pymtheg Mlwyddiant trwy gynnal eu Cyngerdd Flynyddol yng Nghapel Bethel Newydd, y Garnant, dan arweinyddiaeth Catrin Hughes gyda Christopher Davies yn cyfeilio ac Aled Richards, (cyn-ddrymiwr Catatonia) yn cynorthwyo ar yr offerynau taro.  Cawsant gefnogaeth ganmoladwy gan Gôr Meibion Dyffryn Aman o dan arweinyddiaeth Ian Llywelyn gyda Berian Lewis yn cyfeilio.  Bu Côr Merched Cantata, gyda Catrin Hughes yn arwain a Christopher Davies yn cyfeilio hefyd yn cynorthwyo, a Chôr Iau Ysgol y Strade gyda Christopher Davies yn arwain a Catrin Hughes yn cyfeilio.  Wedyn cawsom Ensemble Pres Gwaun Cae Gurwen a Nest Jenkins y Delynores ifanc, deuddeng mlwydd oed a ddaeth atom o Ledrod, Aberystwyth.  Cyflwynydd y noson oedd Heddyr Gregory, ein Llywydd, sy’n gweithio yn y Cyfryngau ac yn Llywyddu inni ymhob Cyngerdd.  ‘Roedd y rhaglen o’r safon flaenaf a’r gymeradwyaeth yn dangos bod pawb wrth eu bodd.  Cyflwynwyd elw’r noson i gynrychiolwyr Alzheimers, achos teg iawn, ac fe gafwyd un o Drefnyddion y Cwmni i ddweud gair ynghanol y Gyngerdd.  Mae’r elw ar hyn o bryd bron yn £1,800,  a’r arian yn dal i ddod mewn.
Ar ôl y Gyngerdd, paratowyd gwledd gan Jackie, ffrind agos i’r Côr Merched yng Nghlwb yr Aman ac yr oedd y cyri yn fendigedig, a phawb wedi mwynhau maes draw.  Yr ydym yn ddyledus i Swyddogion Bethel Newydd am gael y caniatad i gynnal y Gyngerdd yn eu Capel, ac hefyd i’r holl Artistiaid a’n cynorthwyodd.  Hefyd carwn ddiolch i Ronald, Dafydd a Keith am fod yn gyfrifol am dderbyn yr holl docynnau a’r arian yng nghyntedd y Capel ac hefyd i Jackie am wneud yr ymborth, ac i Elinor a’r Swyddogion yng Nghlwb yr Aman am agor y drysau inni unwaith yn rhagor.  Dyma beth oedd noson fythgofiadwy yn wir a diolchwn am bob cefnogaeth a gawsom i gynnal ein cyngerdd flynyddol unwaith yn rhagor.  Mae’r Côr yn gwerthfawrogi’n fawr iawn y gefnogaeth a gawsom

No comments:

Help / Cymorth