Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

18.1.12

Y Blygain yn Hen Fethel

Daeth y llu arferol ynghyd i ddathlu’r Blygain yn Hen Fethel am 6.30 am ar Fore Nadolig, fel y gwnaethant am bron i ddwy ganrif a hanner yng ngwir ysbryd yr Ŵyl.  Cafwyd naws arbennig yng ngolau’r canhwyllau gyda phawb a ddymunai yn cyfrannu gyda gweddïau, darlleniadau, barddoniaeth ac ar gân. 

Diolchodd Linden Evans, yr Arweinydd, i’r rhai a fu’n brysur er mwyn gwneud yr achlysur hwn yn bosib eleni eto, ac yn bennaf i Emyr Jenkins a’i gynorthwywyr, a dreuliasant oriau lawer yn atgyweirio’r hen gapel, a chryfhau’r tô a’r walydd mewn mannau.  Yna buont yn ei wyngalchu nes iddo ymddangos i bawb ohonom yn y cwm fel y “llygad wen yn nhalcen y mynydd” a ddisgrifiwyd yng ngherdd Bryan Martin Davies i’r Hen Fethel.  Gwnaeth Huw Jenkins gynnau’r tânau eto eleni i gynhesu’r Capel, bu Dafydd Wyn yng ngofal tywys y ceir drwy’r fynwent, a rhoddwyd y glo yn ôl eu harfer gan y Brodyr Thomas a’r coed tân gan T.Richard Jones.  

            Diolchodd Linden Evans i Emyr Jenkins a’i gefnogwyr am sicrhau dyfodol y Blygain yn yr Hen Fethel drwy ffurfio Pwyllgor o Gyfeillion Hen Fethel i’w rhedeg.  Gobeithiant greu Ymddiriedolaeth Gyhoeddus eleni i ysgwyddo’r baich a gludwyd dros y blynyddoedd gan ddiaconiaid Bethel Newydd.  Mae Cyngor Cwmaman yn gefnogol iawn i’r fenter hon ac os ydych yn fodlon ystyried bod ar y Pwyllgor, plis rhowch wybod i David Davies, Clerc y Cyngor, drwy ei ffônio ar 07971 026493 neu ei e-bostio ar daidoc@yahoo.co.uk ac yna cewch wahoddiad personol i gyfarfod nesaf  “Cyfeillion Hen Fethel”.  Gallwch hefyd ddangos eich cefnogaeth i’r project o adnewyddu’r adeilad a fotio dros cael grantiau arianol I hybu’r gwaith trwy e-bostio http.communityforce.natwest.com/project/2129.

No comments:

Help / Cymorth