Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

14.1.12

Hen Fethel



Rwyt ti’n nythu yn dy ddu a gwyn
ar gangen gnotiog y mynydd
pioden o gapel
plu dy lechi a’th gerrig
weithiau’n fflachio dan haul
ac adenydd mynor y beddfeini o’th amgylch
wedi’u plygu’n dynn wrth d’ochr…
                                                                       Bryan Martin Davies

No comments:

Help / Cymorth