Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

8.3.12

Ymweliad Mr. Peter Hain MP ag Ysgol Fach y Waun



Yn dilyn ymweliad y plant hyn i’r cynulliad i  weld Mrs Gwenda Thomas AM, fe ddaeth Mr Peter Hain i’r  Ysgol ar Ddydd Gwener  yr ugeinfed o Ionawr.

Aeth o gwmpas yr ysgol i gwrdd a holl staff a phlant yr ysgol.

Cafodd gyfarfod hefyd gyda’r cyngor ysgol lle cafodd y plant   gyfle i holi Mr Peter Hain am ei waith. Cafwyd gwasanaeth byr ar ddiwedd yr ymweliad gyda holl blant yr ysgol yn canu “Calon Lan”

Emily Meek (ysgrifennyddes y cyngor ysgol) a Josef Davies (cadeirydd y cyngor ysgol) aeth fynd a Peter Hain o gwmpas yr ysgol a hefyd Miss Sunderland sy’n  gyfrifol am cyngor yr ysgol.

Daeth y Cynghorydd Mrs Linda Williams i ymuno a ni a gwnaeth y ddau fwynhau yn siarad gyda,r plant a’r athrawon a chawsant gyfle i weld y plant wrth eu gwaith.

 Mae’r plant yn edrych ‘mlaen at ymweld a Mr Peter Hain yn LLundain yn ystod tymor yr haf yn  yn ei swyddfa yn y senedd.

No comments:

Help / Cymorth