Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

7.3.12

Seren y Dyfodol


Mae Seren Medi Morse wedi bod yn brysur iawn yn ddiweddar. Mae hi erioed wedi mwynhau cerddoriaeth ac mae hi’n canu’r piano ac yn cael gwersi canu. Mae hi wrth ei bodd hefyd yn perfformio ac wedi gwneud hynny ers yn ifanc iawn mewn eisteddfodau lleol ac yn Eisteddfodau yr Urdd.Mae yn ddisgybl  yn Ysgol Berfformio Mark Jermaine ac mae hi wedi cymeryd rhan mewn nifer o sioeau yn cynnwys sioe “Annie” yn y Grand yn Abertawe.
Cafodd Seren wahoddiad i ganu ar ei phen ei hun ym Mhort Talbot pan oleuwyd y goleuadau  Nadolig. Deg mlwydd oed yw Seren ac mae hi a’i theulu yn byw yn Pil ger Port Talbot. Yn ddiweddar bu hi’n ffilmio gyda criw Casualty ac mae hi hefyd yn y cynhyrchiad diweddaraf o “Upstairs, Downstairs” a fydd yn ymddangos ar y teledu y flwyddyn yma.
Mae’n amlwg fod Seren wrth ei bodd yn canu ac yn actio ac edrychwn ymlaen i’w gweld yn y ddwy rhaglen.
Llun: Seren(ar ydde) gyda’i chwaer fach Mali ac mae’r ddwy yn ddisgyblion yn Ysgol y Ferch o’r Sger ym Mhorthcawl.
Mae Seren a Mali yn wyresau i Glenda a Brian Harrison, Heol Brynaman a Mrs Maggie Morse Red Roofs.
Pob dymuniad da I Seren a Mali I’r dyfodol.

No comments:

Help / Cymorth