Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

7.3.12

Merched y Wawr Gwaungors

Etholwyd y canlynol fel swyddogion y gangen am y flwyddyn 2011-12 – Llywydd: Mrs Bethan Williams; Trysorydd: Ms Emily Hirishelwood; Is-drysorydd: Mrs Mary Jones; Ysgrifennydd: Mrs Rita Morgan.
Cynhelir y cyfarfodydd am 7.00 y.h. ar y drydedd nos Lun o’r mis yn Neuadd Gymunedol Cwmgors.
Y tymor diwerthaf bu’r gangen dan gwmwl trist. Bu farw dwy o’n haelodau mwyaf ffyddlon a gweithgar sef Mrs Mary Walters a Mrs Doreen Evans. Buodd Mary yn ysgrifennydd y gangen am sawl blwyddyn a Doreen yn lywydd arni. Fel cangen estynnwn ein cydymdeimlad yn ddwys iawn â’u teuluoedd yn eu hiraeth a’u galar.
Ar nodyn ysgafnach roedd yn bleser ac yn fraint
croesawu dwy aelod newydd i’n plith sef Mrs Meirwen Marks a Mrs Maureen Butt - y ddwy yn byw bellach yng Nghwmgors.
I gychwyn y tymor bu un o’n haelodau mwyaf dawnus a diymhongar, sef Mrs Mary Jones, Cwmgors yn siarad am ac arddangos peth o’i gwaith llaw. Dros y blynyddoedd mae wedi ennill sawl gwobr celf a chrefft am ei gwaith cywrair a medrus. Prif westai mis Hydref a Thachwedd oedd Mr Dafydd Lewis a Band y Waun a fuodd yn ein diddanu gyda raglen amrywiol o gerddoriaeth o wahanol wledydd, a Ms Priscilla Jones o’r Garnant. Dathlu’r Nadolig yn yr Almaen oedd testun anerchiad Priscilla. Cafwyd nosweithiau hyfryd a diddorol ganddynt.
Ar nos Lun, 16 Ionawr daeth nifer o aelodau ynghyd i glywed Mr David C. Davies, Ynad Heddwch o’r Glais yn sôn am “Atgofion hen ysgolfeistr”. Bu’n cofio am ei fagwraeth ar fferm ger Aberteifi ac atgofion melys a doniol oedd ganddo o’i gyfnod fel athro Bywydeg yn Ysgol Griffith Jones, San Clêr ac yna fel dirprwy brifathro yn Ysgol Gyfun Ystalyfera cyn iddo ymddeol yn 2005. Diolchwyd iddo am noson difyr a hwylus dros ben gan ein llywydd Mrs Bethan Williams.
Mrs Glenys Kim Protheroe oedd y siaradwraig wadd y ym mis Chwefror.
Croeso cynnes i aelodau hen a newydd.

No comments:

Help / Cymorth