Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

28.6.12

CWMNI DRAMA’r GWTER FAWR

Mae’r cwmni ‘n cystadlu yng nghystadleuaeth Actio Drama Fer Agored,   sy’n ffurfio  Gŵyl Ddrama Awr Ginio  yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg eleni. Cynhaliwyd rhagbrawf yng Nglwb Rygbi Brynaman Nos Fawrth, Mai 8fed yng nghwmni’r beirniad, Carys Tudor Williams.
Perfformiwyd comedi o waith Mel Williams, sef “Claddu Ceiliog”, ac fe gafwyd digon  o hwyl a sbri, gyda’r gynulleidfa  o tua 60 yn chwerthin gydol y perfformiad. Gyda chast o 13,roedd rhaid i’r cynhyrchydd, Mel Morgans,gadw trefn ar bawb. Diolch, unwaith yn rhagor, i bobl Brynaman, am eu cefnogaeth arferol.
 Mae 8 cwmni  o bob rhan o Gymru yn cystadlu ond gan taw dim ond pum cwmni fydd yn cael cymryd rhan yn yrownd derfynol, bydd rhaid aros nes ddechrau Mehefin  i gael gwybod os  fydd  Cwmni ‘r  Gwter Fawr yn un ohonynt.
 Llun: Cwmni Drama’r Gwter Fawr  fu’n perfformio “Claddu Ceiliog”.


No comments:

Help / Cymorth