Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

4.7.12

Merched y Wawr Brynaman

Eiry Thomas, Buddug Williams (Llywydd), Richard Powell, Rhonwen Thomas a Sarah Hopkin.

Yng nghyfarfod mis Ebrill,y siaradwr gwâdd oedd Richard Powell o Lanaman.Rhoddodd amlinelliad i ni o’i waith gyda’r elusen Achub y Plant, sydd yn gweithio  mewn dros 120 o wledydd dros y byd. Mae’r gwaith yn amrywio’n fawr o un gwlad i’r llall, ond mae amddiffyn hawliau sylfaenol plant yn rhan flaenllaw o’r gwaith.Mae Richard ei hun  yn gwneud llawer o waith gweinyddol ond mae hefyd wedi cael y cyfle i deithio i lawer o wledydd ac wedi  gweithredu’n uniongyrchol mewn ardaloedd tlawd iawn, yn arbennig felly yn Ne’r Affrig.
Cafodd yr aelodau gyfle i holi Richard, ac yn dilyn, derbyniwyd cyfraniadau tuag at waith yr elusen. Cyflwynwyd cyfanswm o £183 ,- swm teilwng iawn. Diolch i bawb.   


No comments:

Help / Cymorth