Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

10.7.12

Merched y Wawr Brynaman


       Nos Wener,  Mai 11eg, cynhaliwyd  ein cinio blynyddol yng Nghanolfan y Mynydd Du.  Ymunodd aelodau cangen Gwaun Gors   â ni, a’r wraig wâdd oedd Mererid Jones,Llywydd Cenedlaethol Merched y Wawr. Roedd  ei thad ,yParch.D.J.Thomas , yn frodor o Frynaman, a chyn dod i’r Ganolfan, manteisiodd Mererid ar y cyfle i ymweld â’i hewythr, Mr.Austin Thomas , Bryn y Gân , Heol y Bryn.

Yn dilyn pryd o fwyd blasus , cafwyd anerchiad gan Mererid. Soniodd am rai merched sydd wedi bod yn ddylanwadol ym mywyd Cymru a’i chysylltiadau personol ,teuluol â hwy, megis Jemima Nicholas, Cranogwen a Marged Lloyd Jones  - anerchiad difyr a diddorol tu hwnt. Diolchwyd iddi am ei  phresenoldeb a’i hanerchiad gan Buddug Williams, Llywydd y gangen, ac ategwyd hyn gan Rita Morgan, Ysgrifenyddes cangen Gwaun Gors a gyflwynodd fasged o flodau  i Mererid.

Llun: Blaen: Rita Morgan, Mererid Jones, Buddug Williams.   Cefn: Mary Jones, Sarah Hopkin, Rhonwen Thomas

No comments:

Help / Cymorth