Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

21.10.12

Sialens Celtaidd

Diolch i bawb wnaeth fy noddi ar gyfer y “Celtic Challenge Cycle Ride”.
Yn ystod 26 – 28 Gorffennaf roeddwn yn cyrmyd rhan mewn sialens noddedig i feicio o Aberystwyth i Abergwaun (62 milltir), croesi i Rosslare. Beicio o Rosslare i Dulyn (94 milltir) croesi i Gaergybi ac yna ar y trydydd dydd o Gaergybi yn ol i Aberystwyth (102 milltir). Cyfanswm o 260 milltir mewn tridiau.
Llwyddais i godi dros £1,600. Roedd yr arian i gyd yn mynd tuag at “ChallengeAid” a chafodd dim ei ddefnyddio ar gyfer pwrpas gweinyddu.
Mae ChallengeAid yn cefnogi ysgolion Gobaith yn slymiau Kibera a Korogocho yn Nairobi. Mae myfyrwyr 11 i 18 oed yn dod i’r ysgol i astudio rhwng 6-8pm, pum gwaith yr wythnos. Mae nawdd ChallengeAid yn prynu gwerslyfrau cyrnadd ac uwchradd, desgiau a chadeiriau a trydan, gan gynnwys generadur oherwydd bod y cyflenwad trydan mor anibynadwy.
 
Edwyn Williams

No comments:

Help / Cymorth