Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

4.11.12

Blancedi i Rwmania

 Casglwyd eleni eto bentwr o flancedi i’r trigolion hynny sydd â’u hangen yn Rwmania gan chwiorydd y Cwm a fu’n brysur iawn yn gwau.  Mae’n diolch yn enfawr iddynt am eu hymdrech i wneud y bobl yma’n gynnes dros y gaeafau oer ofnadwy.  Yn y llun gwelir Mrs.Muriel Powell, y Garnant a fu mor garedig ac agor ei drws unwaith yn rhagor i gasglu’r blancedi a’u gwneud yn barod i’w ddanfon i’r anghenus mewn gwlad anghysbell.  Dangoswyd ymrwymiad llwyr wrth i’r chwiorydd yma yn y Cwm fwrw ati i helpu’r tlodion yn ein byd.  Mae’n diolch yn enfawr iddynt am eu gwasanaeth clodwiw.
Mae’n hyfryd gweld Mrs.Powell adref ar ôl ei llawdriniaeth yn Ysbyty Glangwili yn ddiweddar ac mae ei hysbryd mor uchel ag y bu  erioed.  Pob hwyl Mrs Powell a dymunwn yn dda i chi a Dr.Powell yn y dyfodol.  Rwy’n siwr fod Dr Powell yn falch o’i chael hi adref.

No comments:

Help / Cymorth