Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

7.11.12

Doethuriaeth


Llongyfarchiadau i Dr.Anwen Mair Rees, merch ieuengaf John a Susan Rees, Heol Llandeilo, Brynaman.
 Yn dilyn   ei haddysg  gynnar yn Ysgol Gynradd Brynaman ac Ysgol Gyfun Dyffryn Aman,  bu Anwen yn astudio Gwyddor Chwaraeon a Ffisioleg    ym Mhrifysgol  Loughborough gan ennill graddau B.Sc. ac  M.Sc.  Erbyn hyn mae  wedi ennill ei Doethuriaeth  o Brifysgol Fetropolitan, Caerdydd ar  ôl astudio ffactorau risg Clefyd Cardiofasciwlar plant yn Ne Cymru.
Bydd llawer ohonoch yn cofio am lwyddiannau  niferus  Anwen ym myd Athletau, gan iddi gynrychioli Cymru ar sawl lefel am flynyddoedd, gan gynnwys bod yn Gapten  y Tîm Merched Hŷn. Bu hefyd yn aelod o Dîm Merched Prydain dan 23 oed.  Mae’n dal i gystadlu-  ar hyn o bryd mae’n cynrychioli  Harriers Abertawe. 
Yn ddiweddar hefyd fe’i gwelwyd yn cyd- gyflwyno rhaglen “Y Sgwad” ar S4C.( rhaglen yn ysgogi  pobl ifanc  i wella’u ffitrwydd)

Dymunwn bob llwyddiant iddi  wrth iddi ddechrau ar ei swydd newydd yn darlithio Ffisioleg  ac Iechyd  ym Mhrifysgol  Fetropolitan Caerdydd.

No comments:

Help / Cymorth