Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

7.11.12

Merched y Wawr


Dros benwythnos  cyntaf mis Medi, aeth dwy o’r aelodau ar Benwythnos Preswyl Merched y Wawr, a gynhaliwyd eleni  yn Llanbedr Pont Steffan. Cawsant amser bendigedig yno.

Erbyn hyn mae’r tymor newydd wedi dechrau ac fe gynhaliwyd y cyfarfod agoriadol Nos Wener, Medi 14eg.  Y wraig wâdd oedd Liwsi Kim Protheroe Davies – un a fagwyd yng Ngwaun Cae Gurwen, ond sydd bellach yn byw yn Llandybie. Ar ôl ennill ei gradd gyntaf  o goleg Prifysgol Aberystwyth aeth Liwsi  ymlaen i astudio ymhellach a gwneud gwaith ymchwil  ym maes “Geneteg”. Erbyn hyn mae’n arbenigo yn y maes ac mae’n gweithio yn Ysbyty Singleton ac hefyd yn darlithio yn y Brifysgol yn Abertawe.

Er mor ddyrys  yw’r pwnc, fe lwyddodd  Liwsi i roi amlinelliad dealladwy  i’r gynulleidfa o’i gwaith bob dydd, gan roi enghreifftiau o broblemau iechyd  sy’n gallu codi pan fo nam  ar y genynnau.Diolchwyd iddi am noson ddifyr ac addysgiadol gan y Llywydd,Buddug Williams.

No comments:

Help / Cymorth