Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

28.11.12

Eisteddfod Calfaria Garnant


Bu Eisteddfod flynyddol Calfaria, a gynhaliwyd ar Ddydd Gwener, y 5ed o Hydref, yn llwyddiant eleni eto a daeth llu o blant Ysgol y Bedol i gystadlu ar y canu, adrodd a chwarae offerynau yn yr Adran Leol.   Yn yr Adran Agored gwelwyd cystadleuwyr o Gaerdydd, Saron, Llangeler, Llandeilo, Clydach a Rhiwfawr.  Y Beirniad Cerdd oedd Mr. Jonathan Morgan o’r Tymbl gyda Mrs Mair Wyn, Glanaman ar yr adrodd, a Mrs Gloria Lloyd, Rhydaman, a fu’n  gyfeilydd selog dros y blynyddoedd, yn cyfeilio unwaith yn rhagor eleni.  Yn arwain roedd Mr John Vince Williams, y Garnant, a  Mrs. Jane Cousins, heb anghofio am Mr Dewi Davies wrth y drws.  Diolch hefyd i’r Chwiorydd a fu’n brysur tu hwnt yn gwneud yr ymborth mwyaf bendigedig.  Dymuna’r pwyllgor gydnabod pawb a wnaeth gyfrannu yn dda tuag at yr achlysur arbennig hwn ac hefyd am y gefnogaeth sydd yn dod i’w rhan yn  flynyddol i sicrhau fod yr Eisteddfod yn parhau.  Cyflwynwyd gair o werthfawrogiad a rhodd ar ran Cyngor Tref Cwmaman gan y Cynghorydd Mrs.Yvonne Evans, Maeres Cwmaman eleni a chafwyd geiriau pwrpasol iawn ganddi gan ddymuno pob llwyddiant i’r Eisteddfod yn y dyfodol.  Yn bresennol hefyd oedd y Dirprwy Faer, sef y Cynghorwr Dafydd Wyn.

No comments:

Help / Cymorth