Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

28.11.12

Diolchgarwch Gellimanwydd


Ar fore Dydd Sul 21 Hydref cynhaliwyd Gwasanaeth Diolchgarwch Gellimanwydd.
Roedd y capel wedi ei addurno. Ym ol yr arfer, gan y chwiorydd a hyfryd oedd gweld y blodau a’r llysiau o amgylch y capel.
Eleni roedd yr oedolion a’r plant yn cymryd rhan gyda eu gilydd yn yr oedfa. Arbrawf hynod llwyddiannus. Canwyd Salm gan cor oedolion i ddechrau ac yna daeth y plant a’u bocsus esgidiau ymlaen, wedi eu llenwi gyda anrhegion ar gyfer “Operation Christmas Child”.

Hyfryd oedd gweld cymaint o blant bach yn cymryd rhan a pob un yn cyflwyno mor broffesiynol.
Wedi’r oedfa cawsom gyfle i Gymdeithasu yn Neuadd Gellimanwydd drwy rannu cwpanaid o de a bisgedi.

No comments:

Help / Cymorth