Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

28.11.12

CYLCH CINIO CYMRAEG RHYDAMAN


Bydd ein cinio Nadolig eleni yn y Mountain Gate, Tycroes, nos Iau, Rhagfyr 6ed pan y’n diddennir gan ddisgyblion Ysgol Dyffryn Aman o dan arweiniad Mrs. Mared Owen.
            Mae rhaglen amrywiol wedi ei pharatoi gogyfer â 2013. Yn ôl yr arfer ers dros degawd bellach fe ddechreuir gyda cwis yng ngofal medrus Edwyn Williams, Capel Hendre ac yn ystod y flwyddyn cawn gwmni Meri Huws, Comisiynydd Iaith cyntaf Cymru; Ian Sims, Llandeilo a ymadawodd â’r heddlu i fynd i’r weinidogaeth; Brian Jones, perchennog cwmni bwyd Castell Howell; Tristan Bevan, Hyfforddwr Ffitrwydd tîm rygbi y Gleision, Caerdydd; Mrs. Siwsi Kim Protheroe Davies, Genetegydd yn Ysbyty Singleton a Wyn Jones, Ymgynghorydd Ariannol yn Rhydaman. Y prif westai yn ein cinio Gŵyl Ddewi y flwyddyn nesaf fydd Delme Bowen, Cyn-Arglwydd Faer Dinas Caerdydd a brodor o Lanedi ac yn ein cinio Nadolig (2013) fe’n diddennir gan aelodau Clwb Ffermwyr Ifanc Llanfynydd. Fe groesewir y gwragedd a ffrinidau i’r ginio Gŵyl Ddewi a’r ginio Nadolig.
            Fel y gwelwch mae yma rhaglen amrywiol wedi ei pharatoi ar ein cyfer ac os carech fod yn rhan o griw hapus, bywiog a chyfeillgar ynghyd a chael pryd o fwyd blasus am bris rhesymol cysylltwch â’r ysgrifennydd Elfryn Thomas am ragor o wybodaeth. Gallwch ei gael drwy ffonio (01269) 593679 neu ar y we, elfryn.thomas@btinternet.com

No comments:

Help / Cymorth