Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

12.11.12

Y FFAGL OLYMPAIDD

Tynnwyd y llun yng Nghlwb Golff Glynhir, Llandybie. Ynddo mae Megan Jones, wyres Alan a Judith Lewis, Heol Glynhir, Llandybie. Enillodd Megan gystadleuaeth golff “Mini-masters” yn y Celtic Manor, Casnewydd. O ganlyniad cafodd ei dewis i gludo’r ffagl Olympaidd (ar ei thaith drwy Prydain) yn
y Mwmbwls, Abertawe. Llongyfarchiadau mawr Megan - profiad bythgofiadwy. Yn y llun gwelir Cissie Sanders, yn wreiddiol o abertawe ond bellach yn byw gyda’i brawd, Albert Davies, yn Rhydaman. Bu Cissie’n cystadlu yn gymnasteg yn y gemau
Olympaidd, Llundain 1948 a Helsinki, 1952. Yn y llun mae’n gwisgo y ‘blazer’ a wisgodd i’r gemau hyn.
Dyma lun hanesyddol sy’n croesi’r cenedlaethau ac sy’n cysylltu Llandybie a’r gemau Olympaidd yn Llundain yn 1948 a 2012. Yn y llun hefyd gwelir Wendy Jones, capten adran y menywod yng Nghlwb
Golff Glynhir
.

No comments:

Help / Cymorth