Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

17.11.12

CWIS CYMORTH CRISTNOGOL



Nos Wener 15 Tachwedd cynhaliwyd y cwis blynyddol Cymorth Cristnogol Tref Rhydaman a'r cylch. Roedd pum tim yn cystadlu o Noddfa, Garnswllt, Capel Newydd y Betws a'c Ebeneser, y Gwynfryn, Yr Eglwys yng Nghymru a Gellimanwydd. Edwyn Williams oedd y cwisfeistr.
 
Wedi cystadlu brwd roedd dau dim yn gyfartal ar y diwedd, felly roedd rhaid wrth rowd "tie breaker". Ar ddiwedd hon daeth tim Gellimanwydd i'r brig. Llongyfarchiadau mawr iddynt.
 
Roedd stondinau cariau Nadolig a nwyddau Masnach Deg yn cael eu gwerthu. Noson llawn hwyl a sbri yn cael cyfle i ddod at ein gilydd tuag at achos da.

No comments:

Help / Cymorth