Cystadlodd Band ieuenctid Cwmtawe yn
ddiweddar yng Nghystadleuaeth Bandiau Pres Gorllewin Cymru ym Mro Gwaun,
Abergwaun. Cafodd y band yr wobr gyntaf yn Adran Pedwarac enillodd eu
harweinydd Mr Wayne Pedrick, Cwpan yr
Arweinydd Gorau. Oakdale oedd yn Ail a
Band pres Glyn Ebwy yn drydydd.
Mae nifer o aelodau'r band yn byw yn ardal Glo Man, ac mae’r band yn ymarfer yn Ysgol
Gymraeg Pontardawe ar nos Fercher. Mae’r ymarferion yn cael eu rhedeg fel
Canolfan Pres ar gyfer Gwasanaeth Cerdd Gorllewin Morgannwg. Mae gan y Ganolfan
dros gant o aelodau o wyth i gant oed.
Mae Band ieuenctid Cwmtawe hefyd yn
falch o gyhoeddi cyngerd ar y cyd gyda yr enwog Band Y Cory ar Iau 13eg Rhagfyr
am 7.30 yn ysgol Cwmtawe, pontardawe. Bydd tocynnau ar werth yn fuan. £8 A £5.
Cysylltwch a 07879618336.
cwmtaweyouthband.org.uk
No comments:
Post a Comment