Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

22.11.12

Ysgol Gwaun Cae Gurwen yn ennill Statws Masnach Deg


 
Mae ysgol Gwaun Cae Gurwen wedi bod yn gweithio’n galed i hybu materion Masnach Deg ers dwy flynedd bellach. Nawr mae’r ysgol wedi ennill statws ysgol Masnach Deg. Yr ail ysgol yn y sir i ennill yr anrhydedd hon. Mae’r prosiect o dan adain y dirpwry bennath Mr Martin Evans a phlant y cyngor ysgol. Bydd y faner yn cyhwfan yn urddasol cyn hir tu allan i’r ysgol.

No comments:

Help / Cymorth