Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

9.12.12

CLWB RYGBI TYCROES YN GANT OED



Eleni ar Nos Sadwrn, Gorffennaf 28ain bu Clwb Rygbi Tycroes yn cynnal noson i ddathlu 100 mlynedd o rygbi yn y pentref. Ymhlith y gwesteion roedd Adam Price, Cyn-Aelod Seneddol a brodor o’r pentref; Dennis Gethin, Llywydd Undeb Rygbi Cymru; Meirion Powell, Cadeirydd Clwb Rygbi Tycroes; Dewi Davies, Llywydd Clwb Rygbi Tycroes;  Clive Rowlands, Cyn-gapten, hyfforddwr a rheolwr tîm Cymru a Chyn-hyfforddwr y Llewod a Llywydd Undeb Rygbi Cymru.

   
Sefydlwyd y clwb yn y flwy ddyn 2011 – y flwyddyn y bu i dîm rygbi Cymru ennill y gamp lawn ‘swyddogol’ gyntaf. Mae’r wybodaeth am y dechrau yn go aneglur a’r gêm gyntaf a groniclir yw yn erbyn Curnos Stars – Clwb Rygbi Cwmgors heddiw – yn y flwyddyn 2012. Gweithwyr yn y pyllau glo a ffermwyr oedd y rhan fwyaf o’r chwaraewyr yn y dechrau cynnar. Latimer Jones oedd y capten cyntaf ac yntau ond yn 19 mlwydd oed ond ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach fe gafodd ei ladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf swyddogion y clwb yn nhafarn y Mountain Gate, Tycroes – adeilad hynaf pentref Tycroes heddiw. Byddai’r swyddogion a’r chwaraewyr yn cwrdd ar nos Wener i drafod y gwrthwynebwyr y Sadwrn canlynol.
Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ni bu unrhyw gêm rygbi yng Nghymru ond fe ail ddechreuwyd chwarae yn 1919 ac fe brofodd i fod yn gyfnod llwyddiannus iawn i’r tîm. Dan gapteniaeth Abel Rees enillwyd Cwpan Cynghrair Dyffryn Aman yn 1919 ac yn 1923. Gyda streic y gweithfeydd glo a barodd blwyddyn, y ‘soup kitchens’ a’r frwydr barhaus i gynnal bywoliaeth ni fu llawer o rygbi rhwng 1925-26. Ymunodd nifer o chwaraewyr y pentref â thimoedd Rygbi’r Gynghrair yng Ngogledd Lloegr er mwyn cael bywoliaeth gan gynnwys Evan Davies, Ike Fowler a Glyn Howells. Yn y cyfnod hwn hefyd aeth nifer o dimoedd rygbi’r cylch i’r wal ond i osgoi hyn bu rhaid i Dycroes uno â thîm rygbi Penybanc yn 1927 a chwarae o dan yr enw ‘The Tycroes ex-Schoolboys’.

Erbyn tri-degau’r ganrif olaf roedd y clwb ar seiliau cadarnach ac wedi sefydlu eu cartref presennol ar Heol Penygarn. Bu llwyddiant ar y cae hefyd. Yn 1932 enillwyd Pencampwriaeth Cynghrair Llanelli trwy fod yn fuddugol yn erbyn Y Tymbl ac yn 1939 enillodd y tîm Gwpan Ysbyty Dyffryn Aman gyda chwaraewyr ifanc iawn. Hefyd yn ystod y cyfnod hwn dechreuodd y clwb ar ei gais i fod yn aelod cydnabyddedig o’r WRU ond fe gymerodd hyn 60 mlynedd cyn iddynt gael eu derbyn yn 1990.
Gyda dyfodiad yr Ail Rhyfel Byd yn 1939 daeth diwedd ar rygbi rheolaidd yn y pentref ac am yr eil-dro mewn tri-deg mlynedd collodd y clwb dîm cyfan oherwydd effaith y rhyfel. Yn dilyn y rhyfel sefydlwyd tîm ieuenctid a fydd yn dathlu eu 75 oed diwedd y tymor hwn.
Gyda rygbi yn ail-ddechrau ar ôl yr Ail Rhyfel Byd daeth cenhedlaeth newydd o chwaraewyr a buont yn llwyddiannus dros ben. Ar ôl prynu’r tir ar Heol Penygarn symudodd y clwb o fod yn aelod o Cynghrair Abertawe a’r Cylch i Gynghrair Cynradd Cylch Llanelli ac o dan gapteniaeth Gwyn Davies yn 1952 fe enillwyd Tarian y Pencampwyr a Chwpan y Fonesig Howard. Un o’r ychydig aelodau o’r tîm hwnnw sydd yn fyw yw Con Mathias.
Gyda llwyddiant y tîm roedd cael cartref i’r clwb yn dyngedfennol ac yn 1962 fe agorwyd ystafelloedd newid a thŷ-clwb yn 1964 gan rhoi rhai o’r cyfleusterau gorau yng Nghymru. Bu 70degau’r ganrif olaf yn gyfnod o dyfiant i’r clwb gyda teithiau llwyddiannus ar draws Ewrop.

 
Gyda marw y diwydiannau glo a dur bu’r wythdegau yn gyfnod anodd gyda phroblemau ariannol ac oni bai am gefnogaeth a nawdd Mark Wright, dyn busnes lleol, fe fyddai wedi bod yn go dywyll ar y clwb. Er hynny dyrchafwyd y clwb i’r Adran A ac hefyd ennill Cwpan Dyffryn Aman. Yn nhymor dathlu 75 mlynedd o fodolaeth cyrhaeddodd y clwb y rownd gyn-derfynol o Gwpan Dyffryn Aman ac hefyd Cwpan Bragwyr Cymru.
Gyda dyfodiad y gêm broffesiynol yn 1995 gwelwyd Tycroes yn uno â’r Gynghrair Genedlaethol a rhwng 1995 a 1998 fe’i dyrchafwyd fwy nag unwaith. Roedd tymor 2006-7 yn fythgofiadwy. Dyrchafwyd y tîm o Adran 5 Gorllewin Cynghrair SWALEC ac hefyd fe enillwyd y Plât Tovali. Yn ystod y tymor hwn enillodd y clwb ugain o’u dwy-ar-hugain o gemau gan sgorio 106 o geisiau.
Bu’r cyfnod ar ôl hyn yn anodd i’r clwb gyda gostwng i Adran 5 Gorllewin Cynghrair SWALEC ond yn nhymor 2010-11 fe’i dyrchafwyd i Adran 4 ac ar adeg ysgrifennu’r nodiadau hyn y maent yn gwneud yn arbennig o dda gan ennill pob gêm ac ar ben y tabl yn Adran 4 Gorllewin Cynghrair SWALEC.

            Pob lwc a dymuniad da i’r dyfodol.

   

 

 

 

No comments:

Help / Cymorth