Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

6.12.12

Merched y Wawr Brynaman


Noson Allan” yng nghwmni Rhian Morgan a Llio Silyn – dyna a gafwyd yn ddiweddar.  “ Dim on Dwy”  oedd enw’r cyflwyniad, a bu’r ddwy wrthi’n ein diddanu gyda darlleniadau, barddoniaerth,  llenyddiaeth, straeon ac ambell gân – i gyd yn ymwneud â bywyd menywod. Cawsom y llon a’r lleddf, y digri a’r dwys, y cyfan wedi ei blethu’n gywrain i greu adloniant pur.   Ymunodd rhai o aelodau cangen Pontardawe â ni a braf hefyd oedd gallu croesawu tair aelod o ddosbarth y Dysgwyr ym Mrynaman i’n plith.  Ym mis Tachwedd daeth Huw Rees  i’r cyfarfod. Tybed pwygafodd gwedd newydd? Cewch wybod yn fuan.

No comments:

Help / Cymorth