Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

30.12.12

Ysgol y Blaenau



Gweler llun Seren Thomas bu'n cymeryd rhan mewn gala nofio yn Llanelli dros y penwythnos. Enillodd Seren fedal efydd gan nofio pili pala.


 

Twrnament peldroed yr Urdd

Cynhaliwyd twrnament pel droed yr Urdd yn Ysgol y Bedol yn ddiweddar. Cystadlodd dau dim o Ysgol y Blaenau. Aeth un tim ymlaen ac ennill y gystadleuaeth cyfan.
Bydd y tim yma nawr yn mynd ymlaen i'r gystadleuaeth nesaf, gan herio timau eraill Sir Gaerfyrddin.

No comments:

Help / Cymorth