Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

2.1.13

YSGOL WAUN CAE GURWEN


Roedd plant ysgol y Waun yn fisi iawn yn ystod tymor y Nadolig. Dyma rai o'r uchafbwyntiau -
 
Cynhadledd Cyngor Ysgol

Cafodd blant cyngor ysgol y cyfle i fynychu cynhadledd PENTAN ar gyfer pwyllgorau cyngor ysgol gydag holl ysgolion Cymraeg Castell Nedd Port Talbot. Roedd y diwrnod yn un dda wrth drafod a gwneud penderfyniadau a dysgu am faterion gwrth-fwlio.    



Gwasanaeth Diolchgarwch
Cynhaliwyd y gwasanaeth diolchgarwch blynyddol yr ysgol eleni yng Nghapel Carmel yn y pentref. Llwyddiant mawr y bu eto wrth i’r plant casglu tiniau o fwyd ar gyfer gwledydd yn nwyrain Ewrop. Derbyniodd yr ysgol anrheg wrth un teulu am ymdrechion yr ysgol ar hyd y blynyddoedd tuag at yr elusen hon.

Diolchwn i Mrs Val Newton am drefnu’r elusen unwaith eto i ni..

 

Plant Mewn Angen

Ar Ddydd Gwener Tachwedd 16eg, gwnaeth holl blant a staff yr ysgol gwisgo smotiau lliwgar neu byjamas er mwyn codi arian ar gyfer elusen Plant Mewn Angen. Codwyd dros £150 tuag at yr elusen hon. Da iawn plant!

No comments:

Help / Cymorth