Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

22.2.13

Arweinydd Plygain yn Ymddeol


Roedd yr Hen Fethel dan ei sang eleni eto gyda chynulleidfa frwdfrydig wedi ymgynull yno am hanner awr wedi chwech ar fore’r Nadolig i gychwyn yr Wyl yn y modd gorau posib.  Bu Emyr Jenkins a’i wirfoddolwyr yn atgyweirio’r capel ymlaen llaw a braf oedd ei weld ar ei newydd wedd yng ngolau’r canhwyllau.  Cafwyd darlleniadau o’r Ysgrythur, adroddiadau barddonol a gweddĩau ac fe ganwyd carolau’r Nadolig gydag arddeliad.  Llywyddwyd am y bymthegfed blwyddyn yn olynol gan Linden Evans a gyflawnodd y gwaith hwn yn effeithiol iawn ers dyddiau Meirion Evans ei ewyrth.  Mawr fu ein dyled i’r ddau ohonynt.  Gwnaeth Linden ymddeol o’r swydd hon ar derfyn yr oedfa ond fe gynhelir Plygain yr Hen Fethel y Nadolig nesaf eto o dan lywyddiaeth ei olynydd.  

No comments:

Help / Cymorth