Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

18.2.13

N ewid Byd

Fy enw yw Rachel Lewis ac rwy’n byw ym Mhontarddulais ac yn ferch i Bethan Lewis. Mae gennyf un chwaer Carys. Fy nhadcu a mamgu yw Marcus ac Ivy sy’n byw yng Ngarnswllt. Rwy’n fyfyrwraig ym Mhrifysgol Morgannwg ac yn hyfforddi i fod yn Nyrs.

Cefais i a thri arall y cyfle i fod ar yr ail gyfres o ‘Newid Byd’ ac felly aethom i Uganda i wirfoddoli haf diwethaf. Yn gyntaf roedd rhaid i ni ddanfon cais a rhoi rhesymau pam taw ni dylai cael ein dewis ar gyfer y daith. Cynhaliwyd dau ddiwrnod dethol pan gawsom gyfle ddangos ein cymeriad a’n hymateb wrth gyd-weithio gydag eraill.

Roedd y daith i gyfandir Affrica yn brofiad gwych yn enwedig y cyfle i ddod i adnabod disgyblion ysgol ‘Child of Hope’, cynnal mabolgampau, adeiladu ystafell ymolchi, atgyweirio drysau rhai o’r cartrefi, coginio i 70 a dod i adnabod cymuned hollol wahanol i gartref.

Aethom ymlaen at elusen emosiynol iawn, sef ‘Pont’ ac fe gawsom gyfle i gwrdd a gwragedd sy’n dioddef o HIV a cheisio cynnig cymorth iddynt yn eu busnes creu gemwaith a mwclysau allan o bapur.

Yn ogystal cyflwynodd yr elusen ni i ysgol gynradd arall lle cawsom gyfle i greu llyfrgell newydd.
Roedd y gwaith yma’n hwyl wrth i ni baentio ac addurno’r ’stafell a chofio am ein plentyndod ein hunain wrth gyflwyno ein hoff lyfr iddynt.

Cawsom gyfnod anodd pan fu rhaid inni adeiladu sied enfawr i’r geifr a hynny mewn gwres annioddefol ar gyfer yr elusen ‘Dolen Ffermio’. Roedd yn waith corfforol ond gwerth yr aberth.
Rhaid oedd torchi llewys hefyd wrth blannu coed gydag elusen ‘Maint Cymru’ a chynaeafu coffi gydag elusen ‘Masnach Deg’ - dysgais gymaint wrth wneud hyn.

Ehangodd y daith fy ngorwelion. Roedd rolio papur i greu gemwaith, defnyddio morthwyl, casglu ffa coffi a phlannu coed yn gwneud i mi werthfawrogi ymdrech trigolion gwledydd y Trydydd Byd i wella eu byd.
Roedd y gyfres ar S4C yn ystod Ionawr  am 5.30 ac mae’n parhau bob wythnos ar nos Lun. Mae’r gyfres llawn sialensau, antur ac emosiwn. Gwyliwch!

No comments:

Help / Cymorth