Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

16.2.13

CYMDEITHAS YR ONNEN

Mae'r gymdeithas yn cyfarfod yn festri Gosen, Llandybie. Yn ystod cyfarfod Rhagfyr croesawyd Cwmni Drama'r Fedwen, Saron. Y Parchg Carl Williams oedd yn croesawu .
Diddanwyd yr aelodau gan y cwmni. Y parchg Lyn Rees ac Alun Lloyd oedd wedi sgriptio'r cyflwyniadau. Yn wir Lyn Rees oedd cyflwynnydd y gweithgareddau ac Alun Lloyd oedd y cynhrychydd.
Noson i'w chofio.

No comments:

Help / Cymorth