Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

13.2.13

Plant Ysgol Gymraeg Rhydaman yn tynnu sylw at yr Amgylchedd

Mae arlunydd ifanc o Ysgol Gymraeg Rhydaman wedi ennill cystadleuaeth drwy ddylunio poster am yr amgylchedd a gynhaliwud gan Glwb Llewod Rhydaman.
Enillodd  Elan Morris y brif wobr, sef £10 i'w hunan a £100 i'r ysgol.
Dywedodd Judith Evans, llywydd Clwb Llewod "Fe wnaethon ni gynnal y gystadleuaeth creu posteri am yr amgylchedd i roi cyfle i blant yn ein hardal feddwl am bwysigrwydd yr amgylchedd. Roedd 12 ysgol wedi cystadlu".
yn y llun mae Judith Evans, Elan Morris, Ieuan Phillips ( a ddaeth yn ail), Jill Evans, Dirprwy ac Anwen Minchin pennaeth cynorthwyol.

No comments:

Help / Cymorth