Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

12.2.13

Carmen


Llongyfarchiadau i Alun Rhys Jenkins ar ei berfformiad yn yr Opera Carmen yn y Coliseum, Llundain. Yn ddiweddar cafodd y rhaglen ‘Heno’ (S4C) groeso arbennig yn y Coliseum. Pwrpas yr ymweld oedd i ffilmio cynhyrchiad newydd o’r Opera ‘Carmen’ gan Gwmni Opera Genedlaethol Lloegr. Roedd dau o sêr Cymru yn rhan o’r gynhyrchiad, sef  Alun a Rhian Lois, sydd yn wreiddiol o Bontrhydygroes.
Yn y llun gyda Alun a Rhian mae Dan Phillips o rhaglen Heno.

No comments:

Help / Cymorth